Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi tîm darparu ac aseswyr Sgiliau Hanfodol, gan gyflwyno SHC ac arholiadau mewn modd didrafferth i brentisiaid.
-
Amser-Llawn, 37 awr yr wythos
-
Parhaol
-
£21,408 - £22,232
-
Llys Jiwbilî, Fforestfach
Cyfrifoldebau Allweddol:
-
Cofnodi a mynd i'r afael â phob ymholiad gan ddefnyddio’r system briodol.
-
Gwirio bod dysgwyr wedi eu cofrestru a’u bod wedi cwblhau asesiadau gorfodol Cychwynnol WEST o fewn 8 wythnos.
-
Trefnu adnoddau staff a bwcio dysgwyr i ymgymryd â gweithgareddau oddi ar safle’r coleg (ledled Cymru), gan ystyried costau.
Amdanoch chi:
-
Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes
-
NEU gymhwyster cyfwerth
-
Profiad o weithio mewn swyddfa weinyddu brysur
Buddion:
-
28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
-
Parcio am ddim
-
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
-
Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
-
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).