Find The Best Job Vacancies in Various industry sectors 159028+ Job Vacancy


Apply jobs • Apply directly to companies • Clear salary ranges

Browse 159028 List Available Job Vacancies Today. We Have Worked with 2000+ Trusted Companies around the world


Gower College Swansea

Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu - Campws Llwyn y Bryn

Id Job: 3172324

🏢 On-site
💼 Gower College Swansea
📍 Swansea, Wales
🕒 2 days ago
💰 44786 – 46249 GBP ANNUAL

Job Description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn talentog a brwdfrydig i fod yn rhan o’n campws arobryn a hynod lwyddiannus, Llwyn y Bryn, a leolir yn ardal fywiog Uplands. Mae Llwyn y Bryn yn gampws amrywiol sy’n cynnwys pedwar maes dysgu gwahanol, sef Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Y Celfyddydau Gweledol, Addysg Sylfaenol i Oedolion (ASO) a Pherfformio Cerdd. Hoffem gael ceisiadau gan unigolion â phrofiad mewn rôl arweinyddiaeth neu gydlynu ac sy’n angerddol am ddysgu ac addysgu, arloesedd cwricwlwm a sicrhau bod ein dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn.

Y rôl:

Gweithio gyda Rheolwr y Maes Dysgu gan ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r Maes Dysgu a chyfarwyddyd clir i staff gan eu galluogi, eu hysbrydoli, eu cymell a’u cefnogi i ddarparu addysg o’r safon uchaf.

  • Llawn Amser, 37 awr yr wythnos
  • Parhaol
  • Cyflog: £44,786 - £46,249
  • Llwyn Y Bryn Campws

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Cynorthwyo i reoli’r Maes Dysgu gan gynnwys cwricwlwm, ansawdd, cyllidebu, lleoli staff, rheoli perfformiad a rheoli dysgwyr.
  • Cefnogi Rheolwr y Maes Dysgu i sicrhau addysgu, dysgu a chanlyniadau o’r safon uchaf o fewn y Maes Dysgu.
  • Cefnogi Rheolwr y Maes Dysgu i arddel ymagwedd gyson at reoli dysgwyr.

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster Addysgu Cydnabyddedig (TAR neu’r cyfwerth)
  • Gradd neu gymhwyster perthnasol cyfwerth
  • Gwybodaeth o faterion cyfredol sy’n wynebu Colegau AB gan gynnwys datblygiadau cwricwlwm gyda gwerthfawrogiad cadarn o Ddysgu Seiliedig ar Waith
  • Gwybodaeth o fethodolegau cyllid AB gan gynnwys AU, DSW, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, 14-16.
  • Gwybodaeth o ddatblygu’r cwricwlwm i wella dilyniant a chyfleoedd cyflogadwyedd e.e. sgiliau hanfodol

Buddion:

  • 37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23.68% ar gyfartaledd (2023)
  • Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol
  • Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Apply Go Back

Apply for this job

Recommended Reads

Share This Job

💼 LinkedIn
📱 WhatsApp
✈️ Telegram
👽 Reddit
📸 Instagram

Related Jobs

Administrative Assistant
Administrative Assistant
Proactive Cleaners Ltd
Slough, Berkshire, South East England, England
1 day ago
Apply
Team Leader - Burger King - Birmingham International Airport
Team Leader - Burger King - Birmingham International Airport
SSP
United Kingdom
2 days ago
Apply
Epidemiology and Information Scientist
Epidemiology and Information Scientist
UK Health Security Agency
Cambridge, East of England, England
Today
Apply
Trainee Lifeguard
Trainee Lifeguard
TLH Leisure Resort
Torquay, England
1 day ago
Apply
Sales Advisor (Part-time) - Southampton
Sales Advisor (Part-time) - Southampton
H&M
Southampton, England
2 days ago
Apply