Rydyn ni'n dymuno penodi Cynorthwy-ydd Hamdden Lefel 2 yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant.
Byddwch chi'n atebol i'r Rheolwr Hamdden a byddwch chi'n gyfrifol am helpu i ddarparu gweithgareddau hamdden a goruchwylio'r cyhoedd yn y cyfleuster mawr a phrysur yma.
Yn bennaf, bydd y swydd yn canolbwyntio ar gyflawni gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid i bob ymwelydd ac yn sicrhau bod yr holl weithgareddau'n cael eu paratoi a'u cynnal i'r safon uchaf o ran parodrwydd a glendid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus yn goruchwylio ac arwain carfan fach o staff gan lynu at weithdrefnau gweithredu'r ganolfan. Rhan allweddol o'r swydd fydd goruchwylio’r pwll, felly mae Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol (NPLQ) yn hanfodol, ond bydd rhaid ichi hefyd fod yn gyfrifol am reoli dŵr y pwll, a gwaith trin dŵr cysylltiedig, yn ogystal â gweithredu cyfarpar sylfaenol y pwll. Mae meddu ar lygad da am iechyd a diogelwch yn hollbwysig er mwyn gosod offer a’i dynnu i lawr mewn amgylchedd prysur.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r cyfle yma, ffoniwch Gary Dalton ar (01443) 224616.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.