Find The Best Job Vacancies in Various industry sectors 141092+ Job Vacancy


Apply jobs β€’ Apply directly to companies β€’ Clear salary ranges

Browse 141092 List Available Job Vacancies Today. We Have Worked with 2000+ Trusted Companies around the world


Gower College Swansea

Cynghorydd Cyllid Myfyrwyr

Id Job: 316e354

🏒 On-site
πŸ’Ό Gower College Swansea
πŸ“ Swansea, Wales
πŸ•’ 1 day ago
πŸ’° 22658 – 24665 GBP ANNUAL

Job Description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Bod yn gyfrifol am drefnu, gweinyddu a monitro pob ffynhonnell cyllid myfyrwyr, gan gynnwys: Cronfeydd Ariannol wrth gefn, LCA, Grantiau Dysgu Oedolion a Grantiau Gweithredu Teuluol

  • 22.5 Oriau Pob Wythnos
  • Rhan Amser – Parhaol
  • Cyflog - £11,621 - £12,650 pro rata
  • Abertawe, SA2 9EB

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Hyrwyddo ffynonellau ariannu i fyfyrwyr mewn modd gweithredol a meithrin perthnasoedd gwaith da gyda myfyrwyr, staff y Coleg a darparwyr allanol.
  • Cynnal a datblygu (yn ôl yr angen) systemau a gweithdrefnau ar gyfer gweinyddu cyllid myfyrwyr yn unol â’r Adran Gyllid a Chyllid Myfyrwyr Cymru.
  • Gweinyddu’r holl Gronfeydd Cyllid Myfyrwyr yn ôl yr angen, gan gynnwys Cronfeydd Ariannol wrth gefn, GDC, LCA, a Grantiau Gweithredu Teuluol.
  • Cysylltu â myfyrwyr a thiwtoriaid ynghylch materion ariannu.

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster Lefel 3 (Lefel A neu gyfwerth) mewn maes perthnasol
  • 5 TGAU (Gradd A-C) neu gymwysterau cyfwerth gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
  • Gwybodaeth am systemau gweinyddu ac ariannol
  • Sgiliau TG da - MS Word, Excel ac Outlook.

Buddion:

  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • 28 diwrnod pro rata o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Apply Go Back

Apply for this job

Recommended Reads

Share This Job

πŸ’Ό LinkedIn
πŸ“± WhatsApp
✈️ Telegram
πŸ‘½ Reddit
πŸ“Έ Instagram

Related Jobs

Travel Stock Taker/Counter
Travel Stock Taker/Counter
RGIS
Glasgow, Scotland
1 day ago
Apply
Junior Sales Consultant
Junior Sales Consultant
Metric
London, England
1 day ago
Apply
Team Member
Team Member
Tivoli Cinemas
Cheltenham, England
Today
Apply
Bar Team Member
Bar Team Member
The Green Dragon
Croydon, England
1 day ago
Apply
Payroll Clerk
Payroll Clerk
DHL Supply Chain
Skelmersdale, England
2 days ago
Apply