Amdanom ni
Crisis yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl ddigartref. Rydym ni’n gwybod nad yw digartrefedd yn anochel. Rydym ni’n gwybod y gallwn ni roi diwedd arno gyda’n gilydd.
Mae’n gyfnod cyffrous a phwysig i ymuno â ni yn Crisis. Rydym ni’n gweithio gyda miloedd o bobl ledled Cymru, Lloegr a’r Alban er mwyn iddyn nhw allu gadael digartrefedd ar ôl am byth. Yn ddiweddar, rydym wedi addasu’r ffordd y mae ein gwasanaethau’n gweithio er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl o ran rhoi diwedd ar ddigartrefedd. Rydym wedi cynyddu ein gallu i weithio gyda phobl ar sail un i un ac wedi cryfhau ein gallu i gefnogi’r bobl hynny sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i atal neu roi diwedd ar eu digartrefedd.
Lleoliad: Yn gweithio o Skylight De Cymru, Abertawe
Gair am y rôl
Bydd y Gweithiwr Arweiniol yn y Tîm Coetsio yn gweithio gyda phobl sydd yn ymgysylltu â’r gwasanaeth ar lefelau amrywiol: bydd rhai yn gweithio gyda chi mewn ffordd fwy strwythuredig a chynlluniedig, tra bydd eraill mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth a bydd angen cefnogaeth gan asiantaethau eraill. Fel Gweithiwr Arweiniol, byddwch yn cefnogi aelodau i ddatblygu a dilyn cynllun personol i roi diwedd ar eu digartrefedd mewn ffordd gynaliadwy.
Amdanoch chi
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon:
-
Byddwch yn meddu ar wybodaeth a phrofiad o ddulliau coetsio, sy’n cefnogi unigolion mewn grwpiau sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol a grwpiau dan anfantais drwy broses o newid personol sy’n seiliedig ar gryfderau.
-
Byddwch yn meddu ar wybodaeth a phrofiad o ddarparu Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad (IAG). Mae’n bosibl eich bod yn meddu ar gymhwyster IAG neu’n barod i weithio tuag at un.
-
Byddwch yn gallu darparu cefnogaeth a choetsio o ansawdd uchel sy’n galluogi aelodau i gyrchu'r cymorth sydd ei angen arnynt ac i ymgysylltu â’r cymorth hwnnw, gan eu cefnogi i ddatblygu eu cynlluniau a chyflawni eu nodau ac, yn y pen draw, i roi diwedd ar ddigartrefedd.
-
Byddwch yn gallu integreiddio â thîm Gwasanaethau Cleientiaid Crisis o ddydd i ddydd; i ddatblygu perthnasoedd cydweithredol, cyson a Seicolegol Wybodus gydag aelodau a chydweithwyr.
Mae’n bosibl bod gennych brofiad o weithio mewn sector perthnasol e.e. digartrefedd, iechyd meddwl, trin cyffuriau ac alcohol, cyfiawnder troseddol, neu gaethwasiaeth fodern. Mae’n bosibl eich bod yn meddu ar, neu wedi datblygu, un neu ragor o feysydd arbenigedd (e.e. ymarfer sy’n cael ei arwain gan dai, deddfwriaeth ddigartrefedd berthnasol, budd-daliadau lles, cyfraith landlord a thenantiaeth, cymorth cyflogaeth, iechyd meddwl, iechyd a lles, llwybrau triniaeth cyffuriau ac alcohol, MAPPA, MARAC, neu wasanaethau cyfiawnder troseddol eraill). Gall hyn wella effeithiolrwydd a gallu’r tîm amlddisgyblaethol i gefnogi aelodau ac ymgysylltu’n effeithiol â phartneriaid.
Rydym ni’n credu bod amrywiaeth yn gryfder, a’n nod yw gwneud yn siŵr bod Crisis yn wir yn adlewyrchu’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. Rydym ni’n gweithio tuag at sicrhau bod ein sefydliad yn rhywle lle gall pawb ffynnu a chyfrannu at ein cenhadaeth o roi diwedd ar ddigartrefedd am byth. Gwyddom, po fwyaf o safbwyntiau, lleisiau a phrofiadau y gallwn eu cynnwys yn y gwaith hwn, y gorau oll. Yn benodol, rydym ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd, a phobl o bob grŵp, cymuned a chefndir ymylol.
Gweithio yn Crisis
Fel aelod o'r tîm, bydd ystod eang o fuddion i weithwyr ar gael i chi, gan gynnwys:
-
Benthyciadau di-log i brynu tocyn teithio am dymor, cynllun beicio i'r gwaith, a blaendal i sicrhau tenantiaeth;
-
Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 8.5%;
-
25 diwrnod o wyliau blynyddol sy’n cynyddu gyda gwasanaeth i 28 diwrnod ac opsiwn i brynu 10 diwrnod arall o wyliau;
-
Tâl uwch ar gyfer cyfnod mamolaeth, tadolaeth, rhianta ar y cyd a mabwysiadu;
-
Gweithio hyblyg o gwmpas yr oriau craidd 10am-4pm;
-
A mwy! (Mae rhestr lawn o’r buddion ar gael ar y wefan).
Yn ogystal â'n buddion rhagorol i staff, byddwn yn cefnogi eich datblygiad parhaus er mwyn meithrin eich sgiliau, eich profiad a’ch gyrfa.
Pan fyddwch chi’n ymuno â ni, byddwch chi’n cael y cyfle i ymuno â’n rhwydweithiau amrywiaeth staff, sydd â'r nod o hyrwyddo materion ar draws y sefydliad, galluogi staff i fod ar eu gorau a chyfrannu at wneud Crisis yn sefydliad gwbl amrywiol.
Sut mae gwneud cais
Os yw hwn yn swnio fel y cyfle i chi, cliciwch y botwm ‘Gwneud Cais am Swydd’ isod.
Dyddiad cau: Dydd Sul 16 Ebrill 2023 @ 23:59
Cynhelir y cyfweliadau ar ddydd Mawrth 02 Mai 2023
Hygyrchedd
Rydym eisiau i’n proses recriwtio fod mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i ni wneud addasiad neu ddarparu cymorth ychwanegol wrth i chi wneud cais am swydd, anfonwch neges e-bost at [email protected] a bydd ein Tîm Caffael Talent yn cysylltu â chi i drafod sut gallwn ni helpu.
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ewch i:
https://www.crisis.org.uk/about-us/
I weld ein gwaith, ewch i:
youtube.com/user/crisishomelessness
twitter.com/crisis_uk
www.facebook.com/crisis.homeless
Rhifau Elusen Gofrestredig: E&W1082947, SC040094