Advert
The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.
Tiwtor Cysylltiol Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae Canolfan Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau Cymraeg i oedolion ar bob lefel ac yn cynnig ystod o gyrsiau gwahanol, gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, gweithle a chyrsiau e-ddysgu.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cysylltiol newydd i ymgymryd â gwaith fesul awr, gyda'r nos yn bennaf, o lefel cyn-fynediad hyd at lefel hyfedredd yn ddibynnu ar brofiad.
Mae'r swydd hon yn un fesul awr, am gyfnod penodol, hyd at 31 Gorffennaf 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Lowri Bunford-Jones.
Cyflog: £29,762 - £34,314 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 24 Ebrill 2023
Dyddiad cau: Dydd Llun, 19 Mehefin 2023
Mae gan Brifysgol Caerdydd yr hawl i gau‘r hysbyseb hon yn gynnar trwy roi rhybudd o 24 awr os oes digon o geisiadau wedi‘u derbyn.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Person Specification
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
1. Cymhwyster dysgu Cymraeg fel ail iaith, profiad o addysgu Cymraeg i Oedolion cyn 2002 neu ymrwymiad i gymhwyso.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Cymraeg o ansawdd uchel ar lafar ac yn ysgrifenedig.
3. Gallu i ddysgu ym maes Cymraeg i Oedolion ar y lefel ansawdd briodol.
4. Sgiliau Technoleg Gwybodaeth e.e. Microsoft Office gan gynnwys y we ac e-bost.
Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm
5. Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
6. Sgiliau arbennig o dda o safbwynt trefnu a gweithio mewn tîm.
Meini Prawf Dymunol
7. Profiad o addysgu Cymraeg i Oedolion.
8. Profiad o e-ddysgu e.e. bwrdd gwyn rhyngweithiol.
9. Gwybodaeth am wahanol dechnegau dysgu ail iaith (y Gymraeg neu iaith fodern).
Additional Information
Mae’r gwaith dysgu yn ystod yr wythnos waith yn cwmpasu rhwng 8.00 y bore a 9.00 yr hwyr a hynny mewn lleoliadau ar draws y ddinas o dan amodau arferol, a pheth o'r dysgu ar-lein. Cytunir ymlaen llaw ar amserlen yr unigolyn. Disgwylir i diwtoriaid fod ar gael i ddysgu ar benwythnosau o bryd i’w gilydd a hefyd i gyflenwi