Find The Best Job Vacancies in Various industry sectors 159028+ Job Vacancy


Apply jobs β€’ Apply directly to companies β€’ Clear salary ranges

Browse 159028 List Available Job Vacancies Today. We Have Worked with 2000+ Trusted Companies around the world


Gower College Swansea

Hyfforddwr Hyfforddi a Mentora (10 awr yr wythnos)

Id Job: 3172324

🏒 On-site
πŸ’Ό Gower College Swansea
πŸ“ Swansea, Wales
πŸ•’ 1 day ago
πŸ’° 16.33 – 18.99 GBP HOURLY

Job Description

1

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

  • Rhan Amser, 10 awr yr wythos & Parhaol
  • £16.33 - £18.99 yr awr
  • Abertawe, SA5 4HB

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Hyfforddi ac asesu dysgwyr gan gyflwyno safonau uchel o broffesiynoldeb mewn perthynas â sectorau cyflogaeth amrywiol.
  • Gweithio â chyflogwyr i nodi, cefnogi a gweithredu datrysiadau hyfforddiant i ddiwallu anghenion y sefydliad
  • Cyflwyno profiad ddysgu di-dor sy’n datblygu unigolion ac yn hwyluso’r broses o wella sgiliau sy’n aml yn benodol i sector benodol, gan ymwneud â rhaglenni QCF NVQ, fframweithiau prentisiaeth, academaidd a phwrpasol.
  • Gweithio fel rhan o dîm o hyfforddwyr, aseswyr a dilyswyr mewnol i gefnogi a hybu sicrwydd ansawdd ac ardderchowgrwydd, er mwyn bodloni gofynion y cyrff dyfarnu ac ESTYN.

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster lefel 5 mewn disgyblaeth arwain / rheoli
  • Tystysgrif TAQA neu gymhwyster cyfwerth (neu yn barod i weithio tuag at)
  • Hanes profedig o weithio mewn rôl arwain a rheoli.

Buddion:

  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd (pro-rata), a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Cynllun gweithio Hybrid
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Apply Go Back

Apply for this job

Recommended Reads

Share This Job

πŸ’Ό LinkedIn
πŸ“± WhatsApp
✈️ Telegram
πŸ‘½ Reddit
πŸ“Έ Instagram

Related Jobs

Case Manager
Case Manager
Davies Group
Lancashire
1 day ago
Apply
Casual Sales Assistant - House of Fraser
Casual Sales Assistant - House of Fraser
House of Fraser
Rushden, East of England, England
2 days ago
Apply
Finance Officer
Finance Officer
ST DUNSTAN'S COLLEGE
London, England
2 days ago
Apply
Field Sales Representative
Field Sales Representative
Utilita Services Ltd
Glasgow, Scotland
1 day ago
Apply
Finance Manager
Finance Manager
Confidential
Los Gatos, CA
Today
Apply