Find The Best Job Vacancies in Various industry sectors 68131+ Job Vacancy


Apply jobs • Apply directly to companies • Clear salary ranges

Browse 68131 List Available Job Vacancies Today. We Have Worked with 2000+ Trusted Companies around the world


Gower College Swansea Logo

Technegydd TG (Cymraeg Hanfodol)

Id Job: 316e794

🏠 On-site
💼 Gower College Swansea
📍 Swansea, Wales
2 days ago
💰 22658 – 24665 GBP ANNUAL

Job Description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Mae’r Coleg yn ceisio gwella ymhellach y cyfleusterau TG sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.

  • Amser-Llawn (37 awr yr wythos)
  • Parhaol
  • £22,658 - £24,665 per annum
  • Ar draws amrywiol safleoedd

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Darparu cymorth meddalwedd a chaledwedd llinell 1af ac 2il i fyfyrwyr a staff y Coleg a chydymffurfio ag arferion a pholisïau gweithio Technegydd TG.
  • Darparu cefnogaeth dechnegol a chynnal a chadw meddalweddau a ddefnyddir o fewn rhwydweithiau’r Coleg.
  • Gosod a ffurfweddu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol er mwyn sicrhau bod pob dim yn cael ei weithredu i’r safon uchaf posib.

Amdanoch chi:

  • Siaradwr Cymraeg yn hanfodol - Lefel 4
  • Yn gymwys ar lefel 3 neu’n uwch mewn disgyblaeth TG neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
  • Hanes blaenorol o weithio fel Technegydd TG neu rol debyg, gyda phrofiad wedi’I ennill mewn sefydliad Masnachol neu Addysg.

Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Parcio am ddim & Cynllun beicio i’r gwaith.
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).


Apply Go Back

Share This Job

LinkedIn
Reddit
WhatsApp
Telegram

Related Jobs

Casual Event Staff
Casual Event Staff
The Landmark
Burnley, England
1 day ago

Apply
Assistant Manager, EMEA CFO Programme, 12-24 month FTC
Assistant Manager, EMEA CFO Programme, 12-24 month FTC
Deloitte
London, England
2 days ago

Apply
Investment Specialist | SAM UK | Glasgow
Investment Specialist | SAM UK | Glasgow
Santander
Glasgow, Scotland
1 day ago

Apply
Specialist Biomedical Scientist
Specialist Biomedical Scientist
Public Health Wales NHS Trust
Bodelwyddan, Wales
1 day ago

Apply
Knoopologist (Team Leader)
Knoopologist (Team Leader)
Knoops - Covent Garden
London, England
Today

Apply