Job Description
Cynorthwy-ydd Gwybodaeth - Yr Ysgwrn (Rhan-Amser)
Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog
Amdanom ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Wedi’i osod yn erbyn cefndir prydferth Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r Ysgwrn yn ffermdy carreg Cymreig traddodiadol sydd wedi dod yn symbol cenedlaethol o golledion y Rhyfel Byd Cyntaf, diwylliant barddol Cymraeg a bywyd cefn gwlad Cymru.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwyydd Gwybodaeth i ymuno â’n tîm yn Yr Ysgwrn yn rhan amser, gan weithio dau i bedwar diwrnod yr wythnos, gyda gostyngiad mewn oriau dros fisoedd y gaeaf.
Y Manteision
- Cyflog o £20,812 - £21,968 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Cynorthwy-ydd Gwybodaeth, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o ddarparu profiad ymwelwyr o’r radd flaenaf yn Yr Ysgwrn.
Gan gynorthwyo gyda rheolaeth y safle, byddwch yn darparu cyngor a chymorth i unigolion, teuluoedd, ysgolion a grwpiau am Yr Ysgwrn a Pharc Cenedlaethol Eryri tra’n hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o gefn gwlad.
Byddwch hefyd yn gwerthu nwyddau a thocynnau yn ein siop, gan sicrhau ei fod yn lân, yn daclus ac wedi’i gyflwyno i safon uchel.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Delio ag ymholiadau naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn, trwy e-bost neu lythyr
- Paratoi lluniaeth tra'n sicrhau bod y caffi yn cael ei gadw'n lân ac yn daclus
- Dilyn trefniadau ariannol y safle
Amdanoch chi
Er mwyn cael eich ystyried yn Gynorthwyydd Gwybodaeth, bydd angen:
- Y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl
- Gwybodaeth am Yr Ysgwrn a'r ardal leol
- Gwybodaeth dda o ddiwylliant a threftadaeth Cymru
- Brwdfrydedd dros y Parc Cenedlaethol a rhinweddau’r ardal
- Sgiliau TG sylfaenol mewn meddalwedd Microsoft Outlook a Office, gan gynnwys Word ac Excel
Sylwch, bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 11 Ebrill 2023.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer, Cynorthwy-ydd Canolfan Groeso, Cynorthwyydd Canolfan Ymwelwyr, Cynorthwyydd Profiad Ymwelwyr, neu Gynorthwyydd Gwybodaeth Ymwelwyr.
Felly, os ydych am ein helpu i gadw a mwynhau rhyfeddodau Parc Cenedlaethol Eryri fel Cynorthwy-ydd Gwybodaeth, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Information Assistant - Yr Ysgwrn (Part-Time)
Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog
About Us
Snowdonia National Park Authority protects the natural beauty, wildlife and cultural heritage of Eryri National Park. Covering 823 miles of diverse landscape, the Park is home to over 26,000 people, the highest mountain in Wales and the largest natural lake in Wales.
Set against the beautiful Snowdonia National Park backdrop, Yr Ysgwrn is a traditional Welsh stone farmhouse that has become a national symbol of the losses of the First World War, Welsh-language bardic culture and rural Welsh life.
We are now looking for an Information Assistant to join our team at Yr Ysgwrn on a part-time basis, working two to four days per week, with a decrease in hours over the winter months.
The Benefits
- Salary of £20,812 - £21,968 per annum (pro rata)
- Pension
- Holiday Allowance of 24 days (pro rata)
- St David’s Day off (1st of March)
- Cycle to work scheme
- Car Buying Assistance Scheme
- The chance to work in an area of outstanding natural beauty
The Role
As an Information Assistant, you will oversee the delivery of a first-class visitor experience at Yr Ysgwrn.
Assisting with the management of the site, you will provide advice and assistance to individuals, families, schools and groups about Yr Ysgwrn and Snowdonia National Park whilst promoting safe and responsible use of the countryside.
You will also sell goods and tickets at our shop, ensuring it is clean, tidy and presented to a high standard.
Additionally, you will:
- Deal with enquiries either face to face, over the phone, via email or letter
- Prepare refreshments whilst ensuring the cafe area is kept clean and tidy
- Follow the financial arrangements of the site
About You
To be considered as an Information Assistant, you will need:
- The ability to speak Welsh and English fluently
- Knowledge of Yr Ysgwrn and the local area
- Good knowledge of Welsh culture and heritage
- An enthusiasm for the National Park and area’s qualities
- Basic IT skills in Microsoft Outlook and Office software, including Word and Excel
Please note, this role will include working weekends and bank holidays.
The closing date for this role is 11th April 2023.
Other organisations may call this role Customer Service Assistant, Tourist Centre Assistant, Visitor Centre Assistant, Visitor Experience Assistant, or Visitor Information Assistant.
So, if you want to help us preserve and enjoy the wonders of Snowdonia National Park as an Information Assistant, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.
Apply
Go Back