Job Description
Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -
https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/SwyddiArLein/cy/Swydd/Manylion/24816
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.
Full details and application form available here: -
https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/SwyddiArLein/en/Swydd/Manylion/24816
Applicants must complete the application form on the Cyngor Gwynedd website, or Application forms requested from the Support Services. Any applications or CVs submitted through Indeed will not be assessed.
.............
AMDANOM NI
Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth ymgymryd â’r holl waith, ac wedi teilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid.
Rydym wedi ein lleoli yng Ngwynedd, yng ngogledd Cymru dros dri lleoliad, sef ein prif swyddfa yng Nghaernarfon a swyddfeydd ym Mhwllheli a Dolgellau.
Ar ôl datblygu perthynas waith agos â nifer o gleientiaid ledled Cymru, rydym yn ymfalchïo yn ein dull cydweithredol o weithio’n rhanbarthol er mwyn darparu’n lleol.
Mae ein timau amlddisgyblaeth sy’n cynnwys peirianwyr, penseiri, syrfewyr, arbenigwyr llifogydd ac amgylcheddol yn ymroddedig i ddod o hyd i’r atebion mwyaf arloesol a phriodol i ddiwallu anghenion ein cleient.
...............
About Us
We ensure that the environment is protected at all times during construction and have tailored our services to meet customer demand.
We are based in Gwynedd in north Wales over three locations – our main office in Caernarfon and offices at Pwllheli and Dolgellau.
Having developed a close working relationship with a number of clients across Wales, we pride ourselves on our collaborative approach of working regionally in order to deliver locally.
Our multidisciplinary teams that include engineers, architects, surveyors, flooding and environmental specialists are dedicated to finding the most innovative and appropriate solutions to meet our client’s needs.
............
Pwrpas y swydd
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
- Cynorthwyo i reoli prosiectau, dan arweiniad Uwch Beiriannydd Prosiectau, Uwch Beiriannydd Technegol, Prif Beiriannydd neu Reolwr yr Uned, i sicrhau bod gofynion penodol y briff, a ddarperir gan y Cleient o ran costau, amser ac ansawdd, yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus.
- Datblygu gallu personol mewn materion technegol a dylunio.
- Defnyddio technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. Gweithdrefn Rheoli Prosiect YGC, PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ac ati) i sicrhau bod YGC yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion Cleientiaid i ddarparu gwerth am arian gan weithredu ar sail fasnachol ac addasu’i hun i gystadlu’n effeithiol.
- Cynorthwyo i reoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a bod yn rhan a rhoi cefnogaeth i aelodau’r tîm
- Cynorthwyo â rheolaeth ariannol prosiectau a rhoi adborth ariannol i'r Uwch Beiriannydd Prosiectau / Uwch Beiriannydd Technegol / Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned ar faterion prosiect fel bo'r angen
- Ymgymryd â dyletswyddau Cyrnychiolydd / Goruchwyliwr Peirianwyr ar brosiectau adeiladu dan arweiniad Uwch Beiriannydd Prosiectau, Uwch Beiriannydd Technegol, Prif Beiriannydd neu Reolwr yr Uned.
- Cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
- Bod yn ymwybodol o, a gweithredu gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
- Bod yn ymwybodol o holl fentrau'r Llywodraeth / UE a'u goblygiadau
- Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
CYFRIFOLDEB AM SWYDDOGAETHAU
- Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag:-
- arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
- dull caffael ar gyfer prosiectau isadeiledd
- safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys y dechnoleg gyfredol), a chyfrifoldebau proffesiynol a statudol (gan gynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
- Goruchwylio staff eilaidd.
- Dirprwyo i’r rheolwr yn ei h/absenoldeb.
- Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
- Cynorthwyo â rheolaeth ariannol prosiectau
- Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
- Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.
PRIF DDYLETSWYDDAU
- datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
- paratoi amcangyfrifon costau, cynnal asesiadau risg, cynllunio gofynion staff archwilio, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant. Monitro cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd camau adferol angenrheidiol.
- Cwblhau Asesiadau Archwiliad Isadeiledd Priffyrdd/Arfordirol a gwaith cynnal a chadw.
- Bod yn weithredol yn natblygiad a monitro'r Busnes
- Cynllunio i sicrhau bod yr Uned yn perfformio ar ei gorau ac y cyflawnir prif dargedau.
- gweithredu fel Goruchwyliwr gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo'r angen a chwblhau cyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn briodol.
- cynorthwyo i ddatblygu a chynnal y ddogfen contract model
- ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM.
- Cynorthwyo i reoli prosiectau, dan arweiniad Uwch Beiriannydd Prosiectau, Uwch Beiriannydd Technegol, Prif Beiriannydd neu Reolwr yr Uned, a gweithredu fel rheolwr prosiect ar gynlluniau cymharol fychan a syml.
- cynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith fydd yn cael ei wneud ar ran y Cleient.
- Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
- goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
- gweithredu a rheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadurol mewn pethynas â dylunio. Cysylltu ag Uned Fusnes YGC.
- Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
- goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
- adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
- dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
- Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwchyn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
AMGYLCHIADAU ARBENNIG
- Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
- y gallu i weithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff er mwyn sicrhau llwyddiant YGC.
- Yr angen i weithio tu allan i oriau swyddfa mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosiadau a chyfarfodydd y Cyngor a phan fyddwch yn cael eich galw allan i sefyllfaoedd argyfwng
............
Purpose of the post
- Ensure that the people of Gwynedd are at the heart of everything we do.
- To assist in the management of projects, under the guidance of a Senior Project Engineer, Senior Technical Engineer, Principal Engineer or Unit Manager, to ensure successful delivery to the specified requirements of the brief provided by the Client in terms of cost, time and quality
- To develop a personal specialist expertise in technical and design related issues.
- To use project management techniques and systems (eg YGC’s Project Management Procedure, PRINCE2, the Council’s Project Management Handbook etc) that will ensure that YGC gives full commitment to satisfy client needs to deliver value for money whilst operating on a commercial basis and adapting itself to compete effectively
- To assist in the management of flexible project teams, within the Unit and the Service as a whole, be part of and provide support to team members
- To assist in the financial control of projects and give financial feedback to Senior Project Engineer/Senior Technical Engineer/Principal Engineer/Unit Manager on project issues as requested
- To perform Engineer’s Representative/Supervisor duties on construction projects under the guidance of a Senior Project Engineer, Senior Technical Engineer, Principal Engineer or Unit Manager
- To assist in the resolution of contractual matters with organisations such as contractors & consultants
- To be aware of and act upon new procedures introduced in accordance with Council policies and procedures as well as national developments
- To be aware of all Government/EU initiatives and their implications
- To fulfil requirements of health and safety and environmental legislation.
RESPONSIBILITY FOR FUNCTIONS
- To acquire and maintain an up to date knowledge of:-
- current best practice in design issues
- methods of procurement for infrastructure projects
- technical standards and developments (including current technology), and professional and statutory responsibilities (including e.g. those under the Health and Safety at Work etc. Act, 1974, Wildlife & Countryside Act 1982, Habitat Regulations 1994 and appropriate Regulations e.g. CDM regulations) and of their application relevant to the work and functions being carried out.
- To supervise subordinate staff.
- To deputise for the immediate superior in his/her absence.
- Ensure that YGC meets the requirements of the Council.
- To assist in the financial control of projects
- To ensure that all staff timesheets and approvals are completed inaccordance with YGC procedures.
- The post holder is expected to be aware of the requirements of Health and Safety and to collaborate with YGC’s Helath and Safety representative.
- Responsibility for information management in accordance with the Council's information management standards and guidelines. Ensure that personal information is handled in compliance with Data Protection legislation.
MAIN DUTIES
- develop and maintain a practical and professional relationship with clients.
- to prepare cost estimates, carry out risk assessments, plan project staff requirements, produce programmes and expenditure forecasts. Monitor actual progress against forecasts and take necessary remedial action.
- to complete Highway/Coastal Infrastructure Inspection, Assessment and Maintenance work
- to be pro-active in the development and monitoring of the Business
- Plan to ensure optimum performance of the unit and that key targets are achieved to act as the Supervisor for works on construction sites when required and to undertake delegates responsibilities and duties accordinglyassist to develop and maintain the model contract document
- to undertake the duties required by the CDM Regulations.
- to assist in the management of projects, under the guidance of a Senior Project Engineer, Senior Technical Engineer, Principal
- Engineer or Unit Manager and to be project manager on relatively small and straightforward schemes
- to carry out feasibility studies, data collection, preliminary investigations, technical assessment, design, administrative, quality and financial procedures for works to be carried out on behalf of the Client.
- Ensure that projects comply with health and safety and environmental legislation and regulations.
- the supervision of financial, administrative and technical control of works of construction, investigation, assessment or
- Maintenance executed on behalf of the Client. To assist in the resolution of contractual issues on behalf of clients.
- to develop an expertise in design related computer systems and software. Liaise with YGC Business Unit.
- to liaise with other services, other directorates, Council Members, statutory undertakers, other authorities, external organisations, and individuals concerning all aspects of the works
- to supervise and guide the work and development of subordinate staff
- to report to, and receive instructions from senior staff
- other relevant administrative and professional duties commensurate with the seniority of the post.
- Responsibility for self-development.
- Ensure compliance with Health and Safety rules in the workplace in accordance with the responsibilities noted in the Health and Safety at Work Act 1974 and the Council’s Health and Safety Policy.
- Operate within the Council’s policies in relation to equal opportunities and equality.
- Responsible for managing information in accordance with the Council’s information management guidelines.
- Ensure that personal information is treated in accordance with Data Protection legislation.
- Commitment to reducing the Council’s carbon emissions in accordance with the Carbon Management Plan, and to encourage others to act positively towards reducing the Council’s Carbon Footprint.
- Undertake any other reasonable duty which corresponds to the salary level and responsibility level of the job.
- Responsibility to report any worry or suspicion that a child or vulnerable adult is being abused
SPECIAL CIRCUMSTANCES
- Control own expenditure on projects
ability to work under pressure. Ability to motivate staff to ensure the success of YGC.
- the requirement to work outside office hours at Public Inquiries, consultations, exhibitions and Council meetings and when called out to emergency situations
Job Types: Full-time, Permanent
Salary: £32,909.00-£34,723.00 per year
Benefits:
- Company pension
- Cycle to work scheme
- Language training provided
- Sick pay
Schedule:
Work Location: In person
Application deadline: 06/04/2023
Apply
Go Back