As an organisation, we are committed to creating and fostering a culture that promotes safeguarding and the welfare of all children and adults at risk. Our safer recruitment practices support this by ensuring that there is a consistent and thorough process of obtaining, collating, analysing and evaluating information from and about candidates to ensure that all persons appointed are suitable to work with our children and adults
Swyddog Ymgyrchoedd Lleol - Cymru
Oes gennych chi brofiad o ymgyrchu? Oes gennych chi hanes llwyddiannus o godi ymwybyddiaeth mewn cymunedau lleol? Ydych chi'n gallu dylanwadu ar weithwyr proffesiynol a rhoi gwybodaeth iddynt am sut i ymateb i esgeuluso a cham-drin plant? Os mai'r ateb yw “Ydw, ydw, ydw”, rydyn ni eisiau clywed gennych.
Mae'r NSPCC yn dymuno penodi i swydd newydd Swyddog Ymgyrchoedd Lleol - Cymru i gefnogi ein gwaith ymgyrchu. Rydym eisiau cyrraedd cymunedau lleol er mwyn dylanwadu ar y cyhoedd, rhieni, pobl ifanc a rhwydweithiau proffesiynol. I'r perwyl hwn, byddwch yn arwain nifer o brosiectau, gan adrodd i Reolwr Ymgyrchoedd Lleol Cymru.
Bydd gennych brofiad o lunio a chyflwyno ymgyrchoedd lleol a chymunedol, annog ymatebion gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i esgeuluso plant, ymgynghori â rhieni ynghylch sut maent yn ymateb i gam-drin plant yn rhywiol, neu weithio gydag asiantaeth leol i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio'n rhywiol ar blant.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus iawn ac sy'n canolbwyntio ar atebion. Fel aelod o dîm, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau NSPCC lleol a mudiadau lleol eraill. Rydych chi'n rhywun rhagweithiol, llawn dyfalbarhad, sy'n ffynnu ar reoli llwyth gwaith amrywiol a phrysur; byddwch yn fodlon gweithio y tu allan i'ch ardal ar adegau ac yn barod i deithio.
I gael rhagor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:
Lili Dunn - [email protected]
Fel sefydliad, rydyn ni wedi ymrwymo i greu ac i feithrin diwylliant sy'n hyrwyddo diogelu a lles yr holl blant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae ein harferion recriwtio mwy diogel yn cefnogi hyn drwy sicrhau bod proses gyson a thrylwyr o gasglu, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth gan ymgeiswyr, ac am yr ymgeiswyr, a hynny er mwyn sicrhau bod pob person a benodir yn addas i weithio gyda'n plant a'n hoedolion
Cymru - o bell

#LI-RW1