Save the Children UK has an exciting opportunity for a strategic and solutions focussed individual with project experience to join us as our Evidence & Learning Adviser - Wales where you will work with the Wales squad, community, partners and families and children. This is an 18 month contract on a 4 days a week part time pattern.
This role is based in Wales and so candidates must be based in Wales to be considered for this role.
Please note:
- Save the Children, in carrying out its work in Wales, treats the Welsh and English languages equally. We respect every child's right to learn and use the language and customs of their families, and in Wales we need bilingual staff and volunteers to be able to achieve our goals. We will make every effort to support our staff to learn Welsh as part of their role and welcome a commitment to this purpose.
About Us
Save the Children UK believes every child deserves a future. In the UK and around the world, we work every day to give children a healthy start in life, the opportunity to learn and protection from harm. When crisis strikes, and children are most vulnerable, we are always among the first to respond and the last to leave. We ensure children's unique needs are met and their voices are heard. We deliver lasting results for millions of children, including those hardest to reach.
About the role
As a Learning & Impact Adviser, you will be working on a project in collaboration with the local authority. There will be lots of face-to-face interactions as this role involves a community focused approach to supporting children and families. This role is great for someone who is confident building relationships and will be comfortable with participation with children to help find solutions and understand the challenges they face.
In this role, you will:
- Develop and deliver data, evaluation, and learning plans to support the objectives of Save the Children Cymru projects
- Undertake qualitative data collection and analysis with families across multiple sites in Wales
- Build and maintain networks with Evidence and Learning colleagues within Save the Children, in Wales, and across the UK
- Build and maintain networks with data leads from across our local partner organisations
- Working with colleagues, develop data sharing agreements and data management protocols with a wide-range of local organisations so that the Early Learning Community can better track impacts and children's needs
About you
To be successful, it is important that you have:
- Experience of both quantitative and qualitative research methods (with a particular expertise in qualitative and participatory approaches)
- A good understanding and appreciation of the complexity and sensitivity needed when working to record outcomes for children and families experiencing poverty
- Experience of survey design and qualitative research and presenting data in an accessible way.
- Ability to adapt technical language to enable different audiences, including families, children and external professionals
- Experience of using data management tools to manage and analyse data (e.g. NVivo, Power BI, Excel)
- Commitment to Save the Children's vision, mission and values.
To learn more about the position, please review the Job Description in the attached Documents.
What we offer you:
Working for a charity provides one of the best benefits there is – a sense of purpose and reward for helping others. However, we understand the importance of giving back to our employees to ensure a happy and healthy working environment and work/life balance.
- We focus on flexibility, inclusion, collaboration, health and wellbeing both in and outside of work.
- We provide a wide range of benefits which will reward your hard work, motivate you, and inspire you to work to improve the lives of children every day. You can read more about our benefits here.
Closing date: 19th March 2023
Mae gan Achub y Plant y DU gyfle cyffrous i unigolyn strategol sydd yn canolbwyntio ar atebion, gyda phrofiad o brosiectau, ymuno â ni fel ein Cynghorydd Tystiolaeth a Dysgu - Cymru lle byddwch yn gweithio gyda charfan, partneriaid a theuluoedd a phlant Cymru. Mae hwn yn gontract 18 mis ar batrwm rhan-anser 4 diwrnod yr wythnos.
Mae'r rôl hon wedi ei lleoli yng Nghymru felly mae'n rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu lleoli yng Nghymru i gael eu hystyried ar gyfer y rôl hon.
Noder:
- Mae Achub y Plant, wrth wneud ei waith yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Rydym yn parchu hawl pob plentyn i ddysgu a defnyddio iaith ac arferion eu teuluoedd, ac yng Nghymru mae angen staff a gwirfoddolwyr dwyieithog arnom i allu cyflawni ein nodau. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynorthwyo ein staff i ddysgu Cymraeg fel rhan o'u rôl ac yn croesawu ymrwymiad i'r diben hwn.
Amdanom Ni
Mae Achub y Plant yn credu bod pob plentyn yn haeddu dyfodol. Yn y DU ac ar draws y byd, rydym yn gweithio bob dydd i roi dechrau iach mewn bywyd i blant, y cyfle i ddysgu a bod yn ddiogel rhag niwed. Pan fydd argyfwng yn taro, a phlant sydd fwyaf agored i niwed, rydym bob amser gyda'r cyntaf i ymateb a'r olaf i adael. Rydym yn sicrhau bod anghenion unigryw plant yn cael eu bodloni a bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Rydym yn cyflawni canlyniadau parhaus i filiynau o blant, yn cynnwys y rheiny sydd fwyaf anodd i'w cyrraedd.
Ynglŷn â'r rôl
Fel Cynghorydd Dysgu ac Effaith, byddwch yn gweithio ar brosiect mewn cydweithrediad â'r awdurdod lleol. Bydd llawer o ryngweithio wyneb yn wyneb gan fod y rôl hon yn cynnwys dull sydd yn canolbwyntio ar y gymuned o gefnogi plant a theuluoedd. Mae'r rôl yn wych ar gyfer rhywun sydd yn hyderus yn datblygu cydberthynas ac yn gyfforddus yn cymryd rhan gyda phlant er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion a deall yr heriau y maent yn eu hwynebu.
Yn y rôl hon, byddwch:
- Yn datblygu ac yn cyflwyno data, gwerthusiad a chynlluniau dysgu i gefnogi amcanion prosiectau Achub y Plant Cymru
- Yn casglu ac yn dadansoddi data ansoddol gyda theuluoedd ar draws safleoedd lluosog yng Nghymru
- Yn datblygu ac yn cynnal rhwydweithiau gyda chydweithwyr Tystiolaeth a Dysgu yn Achub y Plant, yng Nghymru, ac ar draws y DU
- Yn datblygu ac yn cynnal rhwydweithiau gydag arweinwyr data ar draws ein sefydliadau partner lleol
- Yn gweithio gyda chydweithwyr, yn datblygu cytundebau rhannu data a phrotocolau rheoli data gydag amrywiaeth eang o sefydliadau lleol er mwyn i'r Gymuned Addysg Gynnar allu olrhain effaith ac anghenion plant yn well
Amdanoch chi
I fod yn llwyddiannus, mae'n bwysig bod gennych:
- Brofiad o ddulliau ymchwil ansoddol a meintiol (gydag arbenigedd penodol mewn dulliau ansoddol a chyfranogol)
- Dealltwriaeth dda a gwerthfawrogiad o gymhlethdod a'r sensitifrwydd sydd ei angen wrth weithio i gofnodi canlyniadau ar gyfer plant a theuluoedd sydd yn profi tlodi
- Profiad o ddylunio arolygon ac ymchwil ansoddol a chyflwyno data mewn ffordd hygyrch.
- Gallu i addasu iaith dechnegol er mwyn galluogi cynulleidfaoedd gwahanol, yn cynnwys teuluoedd, plant a gweithwyr proffesiynol allanol
- Profiad o ddefnyddio offer rheoli data i reoli a dadansoddi data (e.e. NVivo, Power BI, Excel)
- Ymrwymiad i weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Achub y Plant.
I ddysgu mwy am y swydd, edrychwch ar y Swydd-ddisgrifiad yn y Dogfennau amgaeëdig.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig i chi:
Mae gweithio i elusen yn rhoi un o'r buddion gorau y gellir ei gael – teimlad o bwrpas a boddhad wrth helpu eraill. Fodd bynnag, rydym yn deall pwysigrwydd rhoi yn ôl i'n cyflogeion er mwyn sicrhau amgylchedd gwaith hapus ac iach a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
- Rydym yn canolbwyntio ar hyblygrwydd, cynhwysiant, cydweithredu, iechyd a lles yn y gwaith a thu allan i'r gwaith.
- Rydym yn darparu amrywiaeth eang o fuddion fydd yn gwobrwyo eich gwaith caled, yn eich ysgogi a'ch ysbrydoli i weithio i wella bywydau plant bob dydd. Gallwch ddarllen mwy am ein buddion yma.
Dyddiad cau: 19 Mawrth 2023