Find The Best Job Vacancies in Various industry sectors 83134+ Job Vacancy


Apply jobs • Apply directly to companies • Clear salary ranges

Browse 83134 List Available Job Vacancies Today. We Have Worked with 2000+ Trusted Companies around the world


Gower College Swansea Logo

Cyfarwyddwr Ystadau

Id Job: 316a334

🏠 On-site
💼 Gower College Swansea
📍 Swansea, Wales
Today
💰

Job Description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Bydd y Cyfarwyddwr Ystadau yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar weithgarwch ystadau a chyfleusterau’r Coleg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Prosiectau Cyfalaf.

  • Amser Llawn - 37 awr yr wythnos
  • Swydd barhaol
  • tua £60,000

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Arwain, rheoli a gweithredu Strategaeth Ystadau’r Coleg.
  • Cynllunio adnoddau ffisegol cynhwysfawr ac integredig hirdymor ar gyfer y Coleg, ei gyfadrannau a’i adrannau.
  • Rheoli pob agwedd ar weithgarwch ystadau a chyfleusterau’r Coleg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch.
  • Cynllunio a threfnu adnoddau i hwyluso prosiectau cyfalaf strategol allweddol.

Amdanoch chi:

  • Bydd gennych radd mewn disgyblaeth berthnasol.
  • Bydd gennych ddealltwriaeth o agweddau cyfreithiol ac ariannol mewn perthynas â phrosiectau eiddo mawr.
  • Byddwch yn meddu ar brofiad o weithio mewn rôl rheoli mewn sefydliad mawr.
  • Bydd gennych sgiliau arwain a chynllunio strategol ardderchog.

Buddion:

  • 37 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc. Mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad (ar gyfartaledd) o 21% (2023).
  • Ffi ostyngedig o £60 i ymaelodi â champfa’r Coleg, ynghyd â mynediad at hyfforddwr ffitrwydd staff, maethegwr a dosbarthiadau ymarfer corff.
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.


Apply Go Back

Share This Job

LinkedIn
Reddit
WhatsApp
Telegram

Related Jobs

Bristol Careers Event
Bristol Careers Event
MBDA
Bristol, England
Today

Apply
Trainee Pharmacy Assistant
Trainee Pharmacy Assistant
Superdrug
Bristol, England
Today

Apply
Flooring Sales Manager
Flooring Sales Manager
Designer Contracts
Norwich, England
2 days ago

Apply
Server/Waiter/Waitress
Server/Waiter/Waitress
Granger & Co.Clerkenwell
London, England
Today

Apply
Senior RTL Analysis Methodology Engineer
Senior RTL Analysis Methodology Engineer
NVIDIA
Santa Clara, CA
Today

Apply