Find The Best Job Vacancies in Various industry sectors 44631+ Job Vacancy


Apply jobs • Apply directly to companies • Clear salary ranges

Browse 44631 List Available Job Vacancies Today. We Have Worked with 2000+ Trusted Companies around the world


Cardiff Council Logo

UWCH YMGYNGHORYDD CYMORTH I DDEFNYDDWYR TERFYNOL (YSGOLION)

316a334

Cardiff, Wales

2 days ago

36298 - 40478 GBP ANNUAL

Cardiff Council

Cardiff, United Kingdom

Heather Joyce

$25 to $50 million (USD)

Government


Job Description

Am Y Gwasanaeth

Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor.
Prif swyddogaethau’r adran yw:
  • darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad
  • rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau
  • cyfrannu at y gwaith o gyflawni ymgyrch Dewis Digidol y Cyngor

Mae’r Gwasanaeth TGCh yn ymdrin â sawl swyddogaeth, gan gynnwys:
  • y Ddesg Gymorth
  • timoedd Systemau Menter a Data, sy’n gyfrifol am ddatblygu, rhoi cymorth a chynnal a chadw rhaglenni a ddatblygwyd yn fewnol yn ogystal â rhaglenni trydydd parti
  • timoedd Gwasanaethau TGCh sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â ’r rhwydwaith, y gweinydd a’r defnyddwyr olaf
  • Diogelwch a Chydymffurfiaeth
  • Pensaernïaeth Menter


Am Y Swydd


Mae'r technolegau a gefnogir wedi'u seilio'n bennaf ar lwyfannau bwrdd gwaith, gliniaduron a gweinydd Microsoft Windows gyda chymwysiadau'n cael eu darparu drwy amrywiaeth o seilwaith ffisegol, rhithwir a chwmwl. O fewn amgylchedd yr ysgol mae Chromebooks ac iPads yn benodol yn cael eu mabwysiadu ynghyd â chynigion gwasanaethau cwmwl Google a Microsoft.

Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac uchelgeisiol, a bydd cyfleoedd i weithio gydag ystod o dechnolegau o’r radd flaenaf.

Byddwch yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu i’ch galluogi chi i ddatblygu eich llwybr gyrfa ynghyd â mynediad at adolygiadau perfformiad a datblygu rheolaidd.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau


  • Gwella a chynnal gwasanaethau cyfrifiadura defnyddwyr terfynol i fodloni anghenion y Cyngor, yr awdurdod addysg lleol ac ysgolion unigol.
  • Rheoli digwyddiadau a cheisiadau gan gynnwys ceisiadau a gyflwynir drwy Ddesg Gymorth yr adran TGCh, ac ymateb iddynt, gan flaenoriaethu a rhoi sylw i’r manylion perthnasol er mwyn galluogi’r gwaith o ymchwilio a datrys problemau yn effeithiol a sicrhau bod CLGau yn cael eu bodloni.
  • Ymchwilio i broblemau cymhleth a’u diagnosio, cynnig atebion a chynnal perfformiad y seilwaith cyfan.
  • Gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio newidiadau cyfrifiadura, ceisiadau, digwyddiadau a phroblemau defnyddwyr terfynol ar gyfer y tîm a'r sefydliad ehangach.
  • Monitro perfformiad y gwasanaeth a rhoi camau ar waith i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion, ei dargedau a safonau ansawdd.
  • Rheoli perfformiad y seilwaith cyfrifiadura i ddefnyddwyr terfynol presennol.
  • Nodi, ymchwilio a, lle bo angen, rhoi cyfleoedd ar waith i wella'r gwasanaethau a ddarperir.
  • Cynnal profion ar feddalwedd/caledwedd gan ddefnyddio gweithdrefnau profi penodol ac offer diagnostig.
  • Mentora a chefnogi aelodau eraill o’r tîm a hyrwyddo’r gwaith o rannu gwybodaeth a throsglwyddo sgiliau. Monitro a chymryd camau lle nad yw perfformiad staff yn bodloni'r safonau gofynnol.
  • Cefnogi gweithgareddau a mentrau gwella gwasanaeth a chyfrannu atynt.
  • Cyfrannu at berfformiad, amcanion, targedau a chyflawni safonau ansawdd y Gwasanaeth.
  • Cynnal perthnasoedd effeithiol â staff technegol a staff cymorth i sicrhau bod gofynion systemau a gwybodaeth yn cael eu nodi a’u bodloni.
  • Datblygu, adolygu a chynnal cynlluniau, polisïau, prosesau a gweithdrefnau’r gwasanaeth.
  • Cymryd cyfrifoldeb personol am eich iechyd a’ch diogelwch a hyrwyddo cydymffurfiaeth gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel.


Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

  • Hanes o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
  • Profiad o reoli problemau a gallu amlwg i ymchwilio i broblemau mewn systemau a gwasanaethau a'u datrys gan gynnwys dosbarthu, blaenoriaethu a dechrau gweithredu, dogfennu achosion sylfaenol a rhoi mesurau gwella ar waith i atal digwyddiadau yn y dyfodol.
  • Profiad ymarferol o ddefnyddio a chefnogi systemau gweithredu presennol Microsoft Windows, rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Microsoft 365, Microsoft Active Directory a’r holl galedwedd a meddalwedd cysylltiedig.
  • Gwybodaeth ragorol am gyfrifiadura defnyddwyr terfynol a seilwaith TG, a dealltwriaeth ohonynt, a phrofiad ymarferol o gefnogi offer defnyddwyr terfynol mewn amgylchedd TG llawn menter.
  • Gwybodaeth ymarferol am y Protocol Rheoli Trawsyrru/y Protocol Rhyngrwyd a seilwaith TG wedi'i rwydweithio.
  • Sgiliau arwain cryf a'r gallu i rymuso, ysgogi a datblygu staff, gan greu amgylchedd TGCh cadarnhaol a chynhwysol.


Gwybodaeth Ychwanegol


Dylech wneud cais am y swydd hon gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein trwy glicio ar y botwm "Gwneud cais nawr" ar y dudalen hon. Os nad yw’n bosibl i chi wneud cais ar-lein, gallwch ofyn am becyn cais drwy ffonio (029) 20872222 a dyfynnu cyfeirnod y swydd.

Rhan Gwybodaeth Ategol y cais yw’r rhan bwysicaf. Talwch sylw manwl iddi. Dyma lle rydych yn dweud wrthym beth sy'n eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd a bydd yn cael ei hasesu yn erbyn y cymwyseddau hanfodol a dymunol yn ein Pecyn Recriwtio ar gyfer y swydd wag hon.

Dylech gyfeirio at bob cymhwysedd yn y Pecyn Recriwtio, gan roi tystiolaeth o’r sgiliau, y profiad a’r wybodaeth sydd gennych ym mhob maes a rhoi enghreifftiau ymarferol. Bydd methu â chwblhau'r adran hon yn lleihau’n fawr y tebygrwydd o gael eich rhoi ar y rhestr fer.

Mae'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud cais am y swydd hon wedi'i chynnwys yn y Pecyn Recriwtio hwn a'r Canllaw ar Wneud Cais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, fe'ch gwahoddir i gyfweliad ar gyfer y rôl hon a fydd yn cael ei gynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Huw David ([email protected]) i drafod

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais
  • Canllawiau Gwneud Cais
  • Gwneud cais am swydd â ni
  • Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol
  • Siarter y Gweithwyr
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00929


Apply Go Back

Share This Job

LinkedIn
Reddit
WhatsApp
Telegram

Related Jobs

Assistant Manager, Wigs and Make-up
Assistant Manager, Wigs and Make-up
The Royal Opera House
London, England
2 days ago

Apply
Office Administrator - Design Studio
Office Administrator - Design Studio
Network Career Consultants
London, England
2 days ago

Apply
Senior Care Assistant/Care Assistant- TIER 2 SPONSORSHIP**
Senior Care Assistant/Care Assistant- TIER 2 SPONSORSHIP**
QH Care
Surrey
2 days ago

Apply
Health and Safety Officer
Health and Safety Officer
I AM THERE LTD
Manchester, England
2 days ago

Apply
Production Operative - Arla Foods, Stourton Dairy
Production Operative - Arla Foods, Stourton Dairy
Arla Foods
Leeds, England
Today

Apply